Milddail | |
---|---|
Achillea millefolium | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Asterales |
Teulu: | Asteraceae |
Genws: | Achillea |
Rhywogaeth: | A. millefolium |
Enw deuenwol | |
Achillea millefolium L., 1753 |
Planhigyn blodeuol gwyllt ydy Milddail neu Llysieuyn y gwaedlif (Lladin: Achillea millefolium; Saesneg: Yarrow) sy'n cael ei ddefnyddio ers cenedlaethau i wneud ffisig (neu foddion). Ceir sawl coesyn, fel arfer, gyda phob un rhwng 0.2 - 1.0 metr o daldra. Mae'r dail rhwng 5 – 20 cm o ran hyd ac i'w canfod mynychaf yn hanner isaf y planhigyn, yn tyfu'n drefnus ar ffurf sbiral gyda pheth blewiach sidanaidd arnynt a phob un yn edrych bron fel pluen.[1].
Ceir 3 - 8 clwstwr o flodau ar bob coesyn, ac mae'r rhai hyn yn amrywio mewn lliw o wyn i binc pan flodeuant rhwng mis Mai a mis Mehefin, ac yn ôl rhai, mae pob blodeuyn bychan yn edrych fel fersiwn tylwyth teg o lygad y dydd. Fe'i geir ar fynyddoedd mor uchel â 3500 metr uwchben lefel y môr, ac nid ydy gwynt yn eu poeni. Mae'n well ganddynt dyfu ar elltydd, bryniau mynyddig, neu mewn coedwigoedd.