Modryb

Perthynas deuluol sydd yn chwaer i fam neu dad yw modryb. Yr enw ar berthynas wrywol gyffelyb, sef brawd mam neu dad, yw ewythr. Gall fodryb fod yn berthynas waed i'w nai neu nith, neu yn berthynas drwy briodas i ewythr.

Tardda'r gair o'r ffurf Frythoneg dybiedig *mātripī (modryb), sydd yn deillio o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *māter (mam).[1]

  1.  modryb. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Awst 2017.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy