Morwyn

Glasoed neu Ieuenctid (La Jeunesse (1893) gan y Ffrancwr William-Adolphe Bouguereau. Mae'r lliw gwyn wedi bod yn symbol o forwyndod a diniweidrwydd ers canrifoedd.

Y cyflwr o fod heb brofi cyfathrach rywiol yw morwyndod.[1][2] Mae llawer o ddiwylliannau'r byd yn edrych ar forwyndod drwy lygad gwahanol: e.e. anrhydedd, purdeb a diniweitrwydd. Mewn rhai diwylliannau mae bod yn ddi-briod yn gyfystyr â bod yn forwyn. Mae'r gair Cymraeg 'morwyn' yn cyfeirio at fenyw yn unig ond gall 'golli morwyndod' hefyd gyfeirio at fechgyn.

Mae'r gair 'morwyn' hefyd yn golygu gweinyddes mewn plasdy neu dŷ bwyta. Gwas yw'r gair am y gwryw.

  1. "Virginity". Merriam-Webster. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2013. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  2. "Virginity". TheFreeDictionary.com. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2013.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy