Math | congregational mosque, tirnod, sefydliad addysgiadol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Mecca |
Gwlad | Sawdi Arabia |
Cyfesurynnau | 21.4225°N 39.8261°E |
Cod post | 31982 |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Islamaidd |
Crefydd/Enwad | Islam |
Mosg Al-Haram (Arabeg: Al-Masjid Al-Haram) yng nghanol dinas sanctaidd Mecca, Sawdi Arabia, yw'r mosg pwysicaf yng nghrefydd Islam.
Mae'r mosg anferth yn cynnwys y Ka'aba, y garreg ddu sanctaidd. Yma mae pererindod fawr flynyddol yr Hajj, sy'n denu pererinion o bob cwr o'r byd Mwslemaidd, yn dechrau ac yn gorffen.
Cred Mwslemiaid fod y Proffwyd Muhammad wedi cael ei gludo o'r Mosg Sanctaidd (Al-Masjid al-Haram) ym Mecca i al-Aqsa yn Jeriwsalem yn Nhaith y Nos, fel y'i disgrifir yn y Coran. Yn ôl traddodiadau Islamig, roedd Muhammad a'i ddilynwyr yn gweddio i gyfeiriad al-Aqsa hyd yr 17eg fis ar ôl y Hijra, pan newidiwyd i weddio i gyfeiriad y Ka'aba.