Mosgito

Mosgito
Amrediad amseryddol: 226–0 Miliwn o fl. CP
Jurasig - Presennol
Benyw Culiseta longiareolata
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Diptera
Is-urdd: Nematocera
Inffra-urdd: Culicomorpha
Uwchdeulu: Culicoidea
Teulu: Culicidae
Meigen, 1818 [1]
Isdeuluoedd
  • Anophelinae
  • Culicinae

Pryfed bychan o deulu'r Culicidae yw mosgitos. Mae ganddynt adenydd cennog, corff main a chwech coes hir. Mae'r gwrywod yn bwydo ar neithdar yn unig ond, mewn llawer o rywogaethau, mae'r benywod yn ectoparasit sy'n bwydo ar waed hefyd, drwy ddefnyddio rhan o'u gec sydd wedi'i ffurfio'n diwb hir. Drwy sugno gwaed a theithio o un anifail i'r llall mae benyw miloedd o rywogaethau'n trosglwyddo clefydau megis malaria, y feirws Zika, gwibgymalwst a'r dwymyn felen ond ceir rhai ohonyn nhw sy'n gwbwl ddiniwed. Mae rhai awdurdodau'n dadlau mai'r mosgito ydy'r anifail mwyaf peryglus i ddyn ar y blaned.[2][3][4][5]

Ceir dros 3,500 rhywogaeth ledled y byd[6][7] a gwnant niwed i filiynau o bobl yn flynyddol.[8][9] Mae gwaed amrywiaeth eang o anifeiliaid yn cael eu sugno ganddynt, gan gynnwys: fertebratau (gan gynnwys mamaliaid, adar, ymlusgiaid, amffibiaid a rhai mathau o bysgod.

Tarddiad y gair ydy mosca ac ito, sef y Sbaeneg am "bry bychan".[10]

Mae cylch bywyd y mosgito yn cynnwys y cyfnodau canlynol: wy, larfa, chwiler ac oedolyn. Rhoddir yr wyau ar wyneb y dŵr a chant eu deor yn larfa symudol, sy'n bwydo ar algâu dyfrol a deunydd organig. Mae'r larfau hyn yn ffynonell fwyd bwysig i lawer o anifeiliaid dŵr croyw, fel nymffau gweision neidr, llawer o bysgod, a rhai adar fel hwyaid.[11] Mae gan fenywod llawndwf y rhan fwyaf o rywogaethau rannau ceg tebyg i diwb a elwir yn sugnydd (proboscis) a all dyllu croen gwesteiwr a bwydo ar waed sy'n cynnwys protein a haearn sydd eu hangen i gynhyrchu wyau.

Mae miloedd o rywogaethau o fosgitos sy'n sugno gwaed amrywiol fertebratiaid, a elwir yn "lletywyr" (hosts), gan gynwys mamaliaid, adar, ymlusgiaid, amffibiaid, a rhai pysgod ynghyd â rhai infertebratau, yn bennaf arthropodau eraill.

Mae poer y mosgito'n cael ei drosglwyddo i'r organeb letyol yn ystod y brathiad, a gall achosi rash. Yn ogystal, gall llawer o rywogaethau lyncu pathogenau wrth frathu, a'u trosglwyddo i letywyr (hosts) eraill. Yn y modd hwn, mae mosgitos yn fectorau (carwyr afiechyd) pwysig o glefydau parasitig megis malaria a filariasis, a chlefydau arbofirol fel y dwymyn felen, Chikungunya, twymyn Gorllewin Nîl, twymyn dengue, a Zika.

Trwy drosglwyddo clefydau, mae mosgitos yn achosi mwy o farwolaethau (o bobl) nag unrhyw dacson o anifeiliaid arall: dros 700,000 bob blwyddyn.[2][12] Honnir bod bron i hanner y bobl sydd erioed wedi byw wedi marw o glefyd fector-mosgito,[13] ond mae’r honiad hwn yn destun dadl, gydag amcangyfrifon mwy ceidwadol yn gosod y nifer o farwolaeth yn nes at 5% o’r holl fodau dynol. 

Ni all mosgitos fyw na gweithredu'n iawn pan fo tymheredd yr aer yn is na 10 gradd Canradd (50 Fahrenheit). Maent yn weithredol yn bennaf ar 15-25 gradd Canradd.[14]

  1. Harbach, Ralph (November 2, 2008). "Family Culicidae Meigen, 1818". Mosquito Taxonomic Inventory.
  2. 2.0 2.1 "Mosquitoes of Michigan -Their Biology and Control". Michigan Mosquito Control Organization. 2013.
  3. ref name=mmca-b>"Mosquitoes of Michigan -Their Biology and Control". Michigan Mosquito Control Organization. 2013.
  4. http://www.gatesnotes.com/Health/Most-Lethal-Animal-Mosquito-Week
  5. "Would it be wrong to eradicate mosquitoes? - BBC News". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2016-02-01.
  6. Biological notes on mosquitoes Archifwyd 2003-08-05 yn y Peiriant Wayback.. Mosquitoes.org. Adalwyd ar 2013-04-01.
  7. Taking a bite out of mosquito research, Author Paul Leisnham, University of Maryland Archifwyd 2012-07-28 yn Archive.is. Enst.umd.edu (2010-07-26). Adalwyd ar 2013-04-01.
  8. Molavi, Afshin (Mehefin 12, 2003). "Africa's Malaria Death Toll Still "Outrageously High"". National Geographic. Cyrchwyd Gorffennaf 27, 2007.
  9. "Mosquito-borne diseases". American Mosquito Control Association. Cyrchwyd Hydref 14, 2008.
  10. Brown, Lesley (1993). The New shorter Oxford English dictionary on historical principles. Oxford [Eng.]: Clarendon. ISBN 0-19-861271-0.
  11. Beck, Kevin. "What Eats Mosquitoes?". Sciencing. Cyrchwyd 31 May 2021.
  12. Bates, Claire (2016-01-28). "Would it be wrong to eradicate mosquitoes? – BBC News" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2016-02-01.
  13. Timothy C. Winegard (20 Aug 2019). The Mosquito: A Human History of Our Deadliest Predator. Text Publishing. t. 2. ISBN 9781925774702.
  14. "More or Less - Have Mosquitoes Killed Half the World? - BBC Sounds". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-27.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy