Mudiad gwleidyddol gyda senedd a threfn iddi ydy Mudiad Rhyddid Palesteinia (Arabeg: منظمة التحرير الفلسطينية; Munazzamat al-Tahrir al-Filastiniyyah neu Munazzamat al-Tahrir al-Filastiniyyah; Saesneg: The Palestine Liberation Organization (PLO)). Yn ôl y Cynghrair Arabaidd (yn 1974), y PLO yw unig gynrychiolydd pobol Palesteina.[1] Mudiad ymryddhad cenedlaethol seciwlar yw'r Mudiad.
Cafodd y Mudiad ei greu yn 1964 gan y Gynghrair Arabaidd gyda'r nôd o ddileu Israel drwy ddulliau milwrol gan i Israel ddwyn eu hawl dros eu tiroedd yn 1947. Ar y cychwyn rheolwyd y mudiad gan lywodraeth yr Aifft. Cyhoeddodd eu Siarter wreiddiol eu hawl i gymryd y tiroedd oddi wrth Israel. Datblygodd y Mudiad i fod yn gyfundrefn annibynnol erbyn y 1960au. Yn ddiweddar mae'r Mudiad wedi derbyn hawl Israel i gyd-fodoli â Phalisteina, ochr-yn-ochr er i arweinwyr megis Yasser Arafat a Faisal Husseini gyhoeddi mai eu nôd tymor hir ydoedd sicrhau holl diroedd Palesteina yn ôl yn nwylo'r Palesteiniaid.[2]
Yn 1993, cadarnhaodd Jasser Arafat fodolaeth Israel mewn llythyr swyddogol at Brif Weinidog Israel. Mewn ymateb, cyhoeddodd Israel ei bod yn derbyn Mudiad Rhyddid Palestina fel cynrychiolydd cyfreithiol Palestina. Arafat yw cadeirydd y Mudiad. Ei olynydd yw Mahmoud Abbas (a elwir hefyd yn Abu Mazen).
Mae'r PLO wedi'i ddosbarthu fel sefydliad arbennig o gyfoethog, gydag asedau'n amrywio o $ 15 biliwn i $ 18 biliwn a dderbyniodd fel rhoddion gan wledydd Arabaidd eraill, ac ati.
Ar Ebrill 27, 2011, cyhoeddodd Fatah a Hamas fod eu pont wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn eu hymgais i uno’r ddau sefydliad yn un blaid wleidyddol i gystadlu yn etholiadau 2012.