Munro

Sgurr Fiona a chopaon Corrag Bhuidhe ac An Teallach.

Munro yw'r enw a roddir ar gopa sydd fwy na 914.4 metr (3,000') uwchben lefel y môr yn yr Alban. Cawsant eu henwi felly ar ôl i'r mynyddwr Syr Hugh Munro (1856 - 1919) wneud arolwg o fynyddoedd mawr yr Alban a chyhoeddi rhestr o'r copaon unigol uchaf (dros 3,000') ar ffurf tablau, wedi'u rhannu'n ardaloedd neu adrannau, yn ei lyfr Munro's Tables (1891).

Uchelgais sawl mynyddwr ers hynny yw dringo i gopa pob un o'r 284 o gopaon sydd ar restr Munro (ddiwygiedig yn 1997); gelwir y sawl sy'n ceisio cyflawni'r gamp honno'n "Munrówr" ("Munroist" yn Saesneg). Y Munro enwocaf yng ngwledydd Prydain ydyw Ben Nevis.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy