Mursen

Mursen (Zygoptera)
Amrediad amseryddol: 271–0 Miliwn o fl. CP
Mursen dinlas fach; gwryw
(Ischnura heterosticta)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Zygoptera
Selys, 1854
Teuluoedd
$ yn dynodi'r grŵp paraphyletic

Is-Urdd o bryfaid yw'r Fursen sy'n enw benywaidd (sef Is-Urdd y Zygoptera; lluosog: Mursennod), a chyda Gweision y neidr maent yn gwneud yr Urdd Odonata. Caiff ambell fursen ei gamgymeryd yn aml am was y neidr gan eu bod mor debyg, ond mae rhai nodweddion tra gwahanol gan gynnwys y ffaith eu bod yn fyrrach, yn deneuach ac mae'r rhan fwyaf o'u rhywogaethau'n swatio'u hadenydd yn agos i'w corff tra maen nhw'n gorffwyso.

Mae pob mursen yn gigysol (neu'n 'rheibus') - yr oedolyn a'r pryf ifanc Mae'r rhai ifanc yn byw mewn dŵr, gyda'r rhan fwyaf o'u rhywogaethau'n byw mewn cynefin dŵr croyw, gan gynnwys mawnog asidig hyd yn oed, llynnoedd, pyllau ac afonydd. Mae'r mursennod ifanc hefyd yn bwrw'u crwyn yn rheolaidd, gyda'r bwriad-croen olaf maen nhw'n dringo allan o'r dŵr ac yn morffio. Mae'r croen ar eu cefnau'n rhwygo ac agorant eu hadenydd, datblygu eu habdomen a thrawsnewid i ffurf oedolyn. Mae eu presenoldeb ar bwll o ddŵr yn arwydd bod y pwll yn eitha glân, heb ei halogi.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy