Mwnci

Mwncïod
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Is-urdd: Haplorrhini
Inffra-urdd: Simiiformes (rhan)
Teuluoedd

Mwncïod y Byd Newydd

Mwncïod yr Hen Fyd

Anifail sy'n perthyn i un o ddau ddosbarth, Mwncïod y Byd Newydd neu Mwncïod yr Hen Fyd yw mwnci. Ceir 264 o rywogaethau gwahanol.

Nid yw'r ddau fath o fwnci yn perthyn yn arbennig o agos i'w gilydd. Mae Mwncïod y Byd Newydd yn perthyn i ddosbarth y Platyrrhini, tra mae Mwncïod yr Hen Fyd yn perthyn i'r uwch-deulu Cercopithecoidea, sy'n rhan o'r Catarrhini. Mae Mwncïod yr Hen Fyd yn perthyn yn agosach i'r Epaod nag i Fwncïod y Byd Newydd.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy