Mwsg

Coden fwsg o'r carw mwsg.

Sylwedd a geir yn chwarennau'r carw mwsg gwrywol yw mwsg[1] a ddefnyddir wrth gynhyrchu peraroglau. Daw o'r goden fwsg, chwarren flaengroenol sydd o dan groen yr abdomen y carw mwsg gwrywol. Mae mwsg ffres yn lled-hylif ac mae'n troi yn bowdr wrth sychu.[2]

  1.  mwsg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2014.
  2. (Saesneg) musk (biological substance). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2014.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy