Arwyddair | Gadewch i'r daith ddechrau |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad, gweriniaeth |
Prifddinas | Naypyidaw |
Poblogaeth | 53,370,609 |
Sefydlwyd | 4 Ionawr 1948: Annibyniaeth oddi wrth Lloegr |
Anthem | Kaba Ma Kyei |
Pennaeth llywodraeth | Min Aung Hlaing |
Cylchfa amser | UTC+06:30, Asia/Yangon |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Byrmaneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De-ddwyrain Asia |
Gwlad | Myanmar |
Arwynebedd | 676,577.2 ±0.1 km² |
Yn ffinio gyda | Bangladesh, Gweriniaeth Pobl Tsieina, India, Laos, Gwlad Tai |
Cyfesurynnau | 22°N 96°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad yr Undeb |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Myanmar |
Pennaeth y wladwriaeth | Myint Swe |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Cyngor Gweinyddiaeth y Wladwriaeth, Cwnsler Gwladriaeth Myanmar |
Pennaeth y Llywodraeth | Min Aung Hlaing |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $65,125 million, $59,364 million |
Arian | kyat |
Canran y diwaith | 3 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 2.05 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.585 |
Gwlad yn ne-ddwyrain Asia yw Undeb Myanmar neu Myanmar (hefyd cyn 1989: Undeb Myanmar neu Myanmar, Bwrma). Mae'n ffinio â Bangladesh i'r gorllewin, India i'r gogledd-orllewin, Gweriniaeth Pobl Tsieina i'r gogledd-ddwyrain, Laos i'r dwyrain a Gwlad Tai i'r de-ddwyrain. Mae llywodraethau milwrol yn rheoli'r wlad ers 1962.
O ran maint, hi yw'r wlad fwyaf ar dir mawr De-ddwyrain Asia (Indo-Tsieina) ac mae ganddi boblogaeth o tua 55 miliwn.[1] Prifddinas y wlad yw Naypyidaw, a'i dinas fwyaf yw Yangon (Rangoon gynt).[2]
Ymhlith y gwareiddiadau cynnar yn yr ardal roedd y dinas-wladwriaethau Pyu sy'n siarad Tibeto-Bwrmaidd ym Myanmar Uchaf a theyrnasoedd Mon ym Myanmar Isaf.[3] Yn y 9g, aeth pobl Bamar i mewn i ddyffryn Irrawaddy uchaf, ac yn dilyn sefydlu'r Deyrnas Baganaidd yn y 1050au, yn araf bach daeth yr iaith Byrmaneg, diwylliant, a Bwdhaeth Theravada yn flaenllaw yn y wlad. Syrthiodd y Deyrnas Baganaidd i'r Mongoliaid, a daeth sawl gwladwriaeth ryfelgar i'r amlwg. Yn yr 16g, wedi'i haduno gan linach Taungoo, daeth y wlad yn ymerodraeth fwyaf yn hanes De-ddwyrain Asia am gyfnod byr. Roedd llinach Konbaung o ddechrau'r 19g yn rheoli ardal a oedd yn cynnwys Myanmar modern ac yn rheoli Assam, Bryniau Lushai, a Manipur. Cipiodd Cwmni India'r Dwyrain reolaeth ar weinyddiaeth Myanmar ar ôl tri Rhyfel Eingl-Bwrma yn y 19g, a daeth y wlad yn wladfa Brydeinig. Ar ôl i Japan ei meddiannu am gyfnod byr, ailorchfygwyd Myanmar gan y Cynghreiriaid. Ar 4 Ionawr 1948, datganodd Myanmar ei hannibyniaeth oddi wrth Lloegr dan delerau Deddf Annibyniaeth Burma 1947.
Bu cryn aflonyddwch yn dilyn annibyniaeth Myanmar, gyda gwrthdaro parhaus hyd heddiw. Arweiniodd y coup d'état yn 1962 at unbennaeth filwrol o dan Blaid Rhaglen Sosialaidd Burma. Ar 8 Awst 1988, arweiniodd Gwrthryfel 8888 at drawsnewidiad i system amlbleidiol ddwy flynedd yn ddiweddarach, ond gwrthododd y cyngor milwrol ildio pŵer, ac mae wedi parhau i reoli’r wlad hyd heddiw. Mae'r wlad yn parhau i fod yn llawn ymryson ethnig ymhlith llawer o grwpiau ethnig ac mae ganddi un o'r rhyfeloedd cartref sydd wedi para hiraf, yn y byd. Mae'r Cenhedloedd Unedig a sawl sefydliad arall wedi adrodd am droseddau cyson a systemig ar ddiffyg hawliau dynol yn y wlad.[4] Yn 2011, diddymwyd y junta milwrol yn swyddogol yn dilyn etholiad cyffredinol 2010, a gosodwyd llywodraeth sifil mewn enw. Rhyddhawyd Aung San Suu Kyi a charcharorion gwleidyddol a chynhaliwyd etholiad cyffredinol Myanmar 2015, gan arwain at well cysylltiadau tramor a lleddfu sancsiynau economaidd,[5] er bod triniaeth y wlad o'i lleiafrifoedd ethnig yn parhau i godi gwrychyn gwledydd eraill.[6]
Yn dilyn etholiad cyffredinol Myanmar 2020, pan enillodd plaid Aung San Suu Kyi fwyafrif clir yn y ddau dŷ, cipiodd byddin Bwrma (y Tatmadaw) bŵer eto mewn coup d'état.[7] Arweiniodd y coup, a gondemniwyd yn eang gan y gymuned ryngwladol, at brotestiadau eang a pharhaus ym Myanmar ac gwelwyd gormes gwleidyddol treisgar gan y fyddin.[8] Arestiwyd Aung San Suu Kyi er mwyn ei thynnu o fywyd cyhoeddus, a’i chyhuddo o droseddau’n amrywiol o lygredd, torri protocolau COVID-19 ayb; mae pob un o'r cyhuddiadau yn ei herbyn "wedi'u cymell yn wleidyddol" yn ôl sylwedyddion annibynnol.[9]
Mae Myanmar yn aelod o Uwchgynhadledd Dwyrain Asia, y Mudiad Heb Aliniad, ASEAN, a BIMSTEC, ond nid yw'n aelod o Gymanwlad y Cenhedloedd er ei fod unwaith yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig. Mae Myanmar yn Bartner o fewn Sefydliad Cydweithredu Shanghai. Mae'r wlad yn gyfoethog iawn ei hadnoddau naturiol, megis jâd, gemau, olew, nwy naturiol, tîc a mwynau eraill, yn ogystal ag ynni adnewyddadwy, sydd â'r potensial pŵer solar uchaf o'i gymharu â gwledydd eraill yr ardal. Fodd bynnag, mae Myanmar wedi dioddef ers amser maith o ansefydlogrwydd, trais carfannol, llygredd, seilwaith gwael, yn ogystal â hanes hir o ecsbloetio trefedigaethol heb fawr o ystyriaeth i ddatblygiad dynol.[10]
Yn 2013, roedd ei CMC (enwol) yn US$56.7 biliwn o'i gymharu â Chymru a oedd yn US$98 biliwn yn 1918; bron dwywaith mor gyfoethog â Mayanmar. Roedd ei CMC (PPP) yn US$221.5 biliwn.[11] Mae'r bwlch incwm (rhwng y cyfoethogion a'r bobl dlawd) ym Myanmar ymhlith y bwlch ehangaf yn y byd, gan fod cyfran fawr o'r economi yn cael ei rheoli gan gyfeillion y jwnta milwrol.[12] Myanmar yw un o'r gwledydd lleiaf datblygedig yn y byd. Ers 2021, dadleoliwyd mwy na 600,000 o bobl ledled Myanmar oherwydd yr ymchwydd mewn trais ar ôl y coup, gyda mwy na thair miliwn o bobl mewn angen dybryd am gymorth dyngarol.[13]