Math | bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.967°N 3.707°W |
Bryn a safle archeolegol yn ne Powys yw Mynydd Bach Trecastell (hefyd Mynydd Trecastell weithiau; Saesneg: Trecastle Mountain). Gorwedd yn ardal Brycheiniog ger pentref Trecastell yng nghymuned Llywel, tua hanner ffordd rhwng Aberhonddu a Llanymddyfri. Cyfeirnod AO: map 160, SN833311.
Nid yw'r bryn ei hun nac yn uchel nac yn amlwg, ond ceir safleoedd archeolegol cynhanesyddol pwysig ar ei lethrau. Mae'r rhain yn cynnwys dau gylch o feini hirion, rhes o gerrig a charnedd gron (round barrow). Gyda'i gilydd mae'r cyfan yn ffurfio safle defodol, yn ôl yr archeolegwyr, a'i hanes yn ymestyn o Oes Newydd y Cerrig i Oes yr Efydd. Ceir safle caer dros nos Rufeinig a chwrs ffordd Rufeinig yn agos i'r safle hefyd.
Ceir dau gylch cerrig ger pen llethr y bryn. Mae'r cylch cerrig lleiaf yn mesur 16.4 metr (54 troedfedd) ar draws ac yn cynnwys pedair carreg ac olion safleoedd chwech arall. Mae rhes o gerrig, sy'n dynodi tramwyfa hynafol, yn rhedeg o'r cylch llai hyd y cylch mwyaf. Ceir 23 o gerrig yn y cylch mwyaf, i'r dwyrain o'r un llai, gydag olion tyllau i dair carreg arall. Mae'n gylch sylweddol sy'n mesur 44.2 metr (145 troedfedd) ar draws. Awgrymir bwlch bychan yn y cylch y bu mynedfa ddefodol iddi.
Tua 100 metr i'r de-ddwyrain o'r cylchoedd hyn ceir maen hir mawr, ar ei gorwedd yn awr, sy'n mesur 3 metr o hyd a hyd at 2 metr o led. Damcanieithir ei bod yn nodi codiad yr haul adeg ganol gaeaf o safbwynt gwyliwr ym mynedfa'r prif gylch cerrig.
Mae'r garnedd yn mesur 15 metr ar draws. Ei uchder yw 1.5 metr.