Math | llosgfynydd byw, pwynt uchaf, isolated peak, stratolosgfynydd, atyniad twristaidd, shintaisan, mynydd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Fuji district |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Fuji-Hakone-Izu National Park |
Rhan o'r canlynol | Fujisan, sacred place and source of artistic inspiration, Three Holy Mountains, 100 Famous Japanese Mountains, Top 100 Geological Sites in Japan, New 100 Famous Japanese Mountains, 100 Famous Yamanashi mountains, 100 Landscapes of Heisei |
Sir | Shizuoka, Yamanashi |
Gwlad | Japan |
Arwynebedd | 19,311.9 ha |
Uwch y môr | 3,777.24 ±0.99 metr |
Cyfesurynnau | 35.3606°N 138.7275°E |
Perchnogaeth | Fujisan Hongū Sengen Taisha |
Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd, Place of Scenic Beauty, Special Place of Scenic Beauty, Historic Site of Japan |
Manylion | |
Deunydd | basalt |
Mynydd Ffwji neu Fujiyama yw mynydd uchaf Siapan. Saif ar ynys Honshū, ar y ffin rhwng taleithiau Shizuoka a Yamanashi, ychydig i'r gorllewin o Tokyo. Gellir ei weld o Tokyo ar ddiwrnod clir. Y dinasoedd agosaf ato yw Gotemba yn y dwyrain, Fuji-Yoshida yn y gogledd a Fujinomiya yn y de-orllewin.
Ysytrir Mynydd Ffwji yn fynydd sanctaidd, ac mae'n symbol o Siapan trwy'r byd. Mae'n llosgfynydd, er nad yw wedi dangos unrhyw arwydd o fywyd ers ffrwydrad bach yn 1707. Dywedir iddo gael ei ddringo am y tro cyntaf gan fynach dienw yn 663. Hyd ddiwedd y cyfnod Meiji yn y 19g, gwaharddwyd merched rhag ei ddringo. Erbyn hyn mae tua 200,000 yn ei ddringo bob blwyddyn. Mae wedi bod yn destun poblogaidd i arlunwyr Siapan ers canrifoedd; y mwyaf enwog o'r gweithiau hyn yw 36 Golygfa ar Fynydd Ffwji gan Hokusai.