Math | ucheldir, cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.099502°N 3.637034°W |
Manylion | |
Rhiant gopa | Mwdwl-eithin |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Mae Mynydd Hiraethog yn ardal o ucheldir, gan mwyaf rhwng 400m a 500m, rhwng Afon Conwy ac Afon Clwyd, yn Sir Ddinbych a Sir Conwy.
Mae'n ardal o rostir, gyda rhai dyffrynnoedd yn torri ar ei draws. Mae rhannau o Fynydd Hiraethog yn cynnwys trwch o rostir grug, sydd yn brin iawn yng Nghymru. Rheolid y rhostir yma ar gyfer saethu Grugiar yn hanner cyntaf yr 20g, ond bellach mae niferoedd y Grugiar wedi gostwng yn sylweddol yma. Mae rhan ddwyreiniol Mynydd Hiraethog yn cynnwys planhigfeydd coedwigaeth sy’n rhan o Goedwig Clocaenog, sydd hefyd yn gartref i un o boblogaethau olaf o wiwerod coch yng Nghymru.
Y copa uchaf yw Mwdwl-eithin (532 medr). Mae Meol Seisiog (467 medr) yn gopa arall ble mae dwr Afon Elwy yn dechrau llifo.
Mae'r ardal yn adnabyddus am olion cynhanesyddol, yn enwedig o Oes yr Efydd. Ymddengys fod poblogaeth sylweddol wedi bod yn byw yma yn y cyfnod yma, pan oedd yr hinsawdd ychydig yn gynhesach nag ar hyn o bryd. Ceir nifer o gronfeydd dŵr yma; y rhai mwyaf yw Llyn Alwen, Llyn Brenig a Chronfa Aled Isaf.
Mae adfeilion y porthdy hela Gwylfa Hiraethog ar ucheldir Mynydd Hiraethog, a gall eu gweld o'r ffordd A543 gerllaw.