Yr olygfa tua'r de-ddwyrain, ar draws gwastadedd Mynydd Llanagatwg, o gopa Hen Dŷ Aderyn. | |
Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,680.8 ha |
Uwch y môr | 528.9 metr |
Cyfesurynnau | 51.8236°N 3.1667°W |
Cod OS | SO202144 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 29.3 metr |
Rhiant gopa | Cefn yr Ystrad |
Cadwyn fynydd | Mynydd Du |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Mae Mynydd Llangatwg yn un o fynyddoedd y Mynydd Du, rhwng Llanymddyfri a Threfynwy; cyfeiriad grid SO202144 ac o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Uchder cymharol, neu 'amlygrwydd' y copa (a elwir yn 'Twr Pen-cyrn') yw 498 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. I'r gogledd, yn nyffryn Afon Wysg ceir pentref Llangatwg, a roddodd ei enw i'r mynydd, pentref a enwys ar ôl Sant Catwg, a elwir hefyd yn Catwg Ddoeth. Ymhlith y mapiau ar gyfer y lleoliad hwn mae Landranger 161 ac Explorer 13S.
Dewey yw Mynydd Llangatwg. Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 529 metr (1736 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 10 Mawrth 2007.
Llwyfandir, neui wastatir yw'r mynydd, gyda dau brif gopa: y naill, sef Hen Dŷ Aderyn (yn y gorllewin), yn 530 metr ar gyfeiriad gris OS SO171157, a'r llall, sef Twr Pen-cyrn (yn y dwyrain), yn 529 m, lle ceir piler triongli (trig-point). Ceir pwll bychan o ddŵr o'r enw Pwll Gwy-rhoc ar ochr gogleddol y gwastadedd, a phwll ychydig yn llai tua dau gant metr i ffwrdd tua'r gorllewin. I'r gorllewin, dros y B4560, mae'r mynydd yn uno gyda Mynydd Llangynidr.
Mae creigiau'r mynydd yn perthyn i'r gorgyfnod Paleosöig.