Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.843787°N 4.248323°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ann Davies (Plaid Cymru) |
Pentref bychan yng nghymuned Llangynnwr, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Nant-y-caws (hefyd: Nantycaws ar fapiau Saesneg). Fe'i lleolir yng nghanolbarth y sir tua 5 milltir i'r dwyrain o dref Caerfyrddin, ger y ffordd A48.
Ymddengys mai Cymreigiad lleol o'r gair Saesneg causeway ('sarn') yw'r gair 'caws' yn yr enw, yn hytrach na'r 'caws' cyfarwydd.[1]
Ceir addoldy yn y pentref, Capel Philadelffia, adeiladwyd yn wreiddiol yn 1809.[2]