Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc

Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc
GanwydNapulione Buonaparte Edit this on Wikidata
15 Awst 1769 Edit this on Wikidata
Ajaccio Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mai 1821 Edit this on Wikidata
Longwood House Edit this on Wikidata
Man preswylSaint Helena, Ajaccio, Paris, Ynys Elba Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • École Militaire Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, gwladweinydd, swyddog milwrol, casglwr celf, ymerawdwr, brenin neu frenhines, ymgyrchydd brwd, arweinydd milwrol, teyrn, swyddog y fyddin Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr y Ffrancwyr, Cyd-Dywysog Ffrainc, Ymerawdwr y Ffrancwyr, Prif Gonswl, Brenhinoedd yr Eidal, Cyd-Dywysog Ffrainc, pennaeth y wladwriaeth, arlywydd Edit this on Wikidata
Taldra168 centimetr Edit this on Wikidata
TadCarlo Bonaparte Edit this on Wikidata
MamLetizia Ramallo Edit this on Wikidata
PriodJoséphine de Beauharnais, Marie Louise, Duges Parma Edit this on Wikidata
PartnerMarie Walewska, Pauline Fourès, Emilie Kraus von Wolfsberg, Elisabeth de Vaudey, Eléonore Denuelle de La Plaigne, Giuseppina Grassini, Albine de Montholon Edit this on Wikidata
PlantNapoleon II, Charles Léon, Alexandre Colonna-Walewski, Eugen Megerle Von Mühlfeld Edit this on Wikidata
PerthnasauCamillo Borghese, 6ed Tywysog Sulmona, Stéphanie de Beauharnais, Eugène de Beauharnais, Napoleon III, ymerawdwr Ffrainc Edit this on Wikidata
LlinachTylwyth Bonaparte Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd yr Eliffant, Urdd yr Eryr Gwyn, Marchog Urdd y Cnu Aur, Urdd Sant Anna, Dosbarth 1af, Urdd Sant Andreas, Uwch Feistr y Lleng Anrhydedd, uwch groes Urdd Sant Joseff, Urdd y Goron Haearn (Awstria), Urdd Sant Steffan o Hwngari, Urdd Sant Hwbert, Urdd yr Eryr Du, uwch groes Urdd Imperialaidd Crist, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Order of the Reunion, Urdd Ffrangeg y Palfau Academic, Royal Order of the Two-Sicilies, Order of Leopold, Order of Saint Joseph, Urdd yr Eryr Coch, Order of the Rue Crown, Urdd Teilyngdod Coron Bafaria, Order of Ludwig I, Order of the Crown, Urdd Ffyddlondeb, Urdd Brenhinol y Seraffim, Urdd Siarl III, Urdd Santiago, Order of the Lion and the Sun First class, Marchog Urdd Sant Alexander Nevsky, Order of the Crown of Westphalia, Royal Order of Spain, Order of the Three-Golden Fleeces, Order of the Union, Royal Order of Saint George for the Defense of the Immaculate Conception Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Napoleone Buonaparte (yn wreiddiol, yn Eidaleg a Chorseg) neu Napoléon Bonaparte yn Ffrangeg), neu Napoleon I ar ôl 1804, (15 Awst 17695 Mai 1821) yn rheolwr Ffrainc o 1799; daeth i gael ei gydnabod fel Ymerawdwr Cyntaf Ffrainc o dan yr enw Napoléon I le Grand (Napoleon I "y Mawr") o 18 Mai 1804 hyd 6 Ebrill 1814, cyfnod pan reolai ran fawr o orllewin a chanolbarth Ewrop yn ogystal â Ffrainc. Apwyntiodd nifer o'i berthnasau, o'r teulu Bonaparte, i reoli fel yn brenhinoedd mewn gwledydd eraill, ond daeth rheolaeth y mwyafrif ohonyn i ben pan gwympodd Napoleon o rym. Bu farw Napoleon ar ynys Saint Helena yn ne Cefnfor Iwerydd.

Rhoddir yr enw Rhyfeloedd Napoleon i gyfres o ryfeloedd yn Ewrop rhwng 1804 a 1815. Ymladdwyd y rhyfeloedd rhwng Ffrainc dan Napoleon a nifer o wledydd, yn cynnwys Prydain Fawr, Rwsia, Awstria, Prwsia, Sbaen ac eraill a ffurfiwyd sawl cynghrair gwahanol yn erbyn Napoleon.

Ganed Napoleon ar ynys Corsica yn fuan ar ôl iddi gael ei chyfeddiannu gan Deyrnas Ffrainc.[1] Cefnogodd y Chwyldro Ffrengig yn 1789 tra'n gwasanaethu yn y fyddin Ffrengig, a cheisiodd ledaenu ei delfrydau i Gorsica ei wlad enedigol. Cododd yn gyflym yn y Fyddin ar ôl iddo achub le Directoire trwy ymladd yn erbyn y gwrthryfelwyr brenhinol. Ym 1796, dechreuodd ymgyrch filwrol yn erbyn yr Awstriaid a'u cynghreiriaid Eidalaidd, gan sgorio buddugoliaethau pendant a dod yn arwr cenedlaethol. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, arweiniodd ymgyrch filwrol i'r Aifft a'i sbardunodd i afael mewn gwleidyddiaeth. Ef oedd y tu ol i feddiannu grym yn Nhachwedd 1799 a daeth yn Gonswl Cyntaf y Weriniaeth.

Roedd gwahaniaethau gyda Phrydain yn golygu bod y Ffrancwyr yn wynebu Rhyfel y Drydedd Glymblaid erbyn 1805. Chwalodd Napoleon y glymblaid hon gyda buddugoliaethau yn Ymgyrch Ulm, ac ym Mrwydr Austerlitz, a arweiniodd at ddiddymu'r Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd. Ym 1806, cymerodd y Bedwaredd Glymblaid arfau yn ei erbyn oherwydd bod Prwsia yn poeni am dwf yn nylanwad Ffrainc ar y cyfandir. Gorchfygodd Napoleon Prwsia ym mrwydrau Jena ac Auerstedt, gorymdeithiodd y Grande Armée i Ddwyrain Ewrop, gorchfygodd y Rwsiaid ym Mehefin 1807 yn Friedland, a gorfodi cenhedloedd gorchfygedig y Bedwaredd Glymblaid i dderbyn Cytundebau Tilsit. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, heriodd yr Awstriaid y Ffrancwyr eto yn ystod Rhyfel y Bumed Glymblaid, ond cadarnhaodd Napoleon ei afael ar Ewrop ar ôl buddugoliaeth ym Mrwydr Wagram.

Gan obeithio ymestyn y "System Gyfandirol", sef ei embargo yn erbyn Llywodraeth Prydain, ymosododd Napoleon ar Benrhyn Iberia a datgan ei frawd Joseph yn Frenin Sbaen ym 1808. Gwrthryfelodd y Sbaenwyr a'r Portiwgaliaid yn Rhyfel y Penrhyn, gan arwain at drechu marsialiaid Napoleon. Lansiodd Napoleon ymosodiad ar Rwsia yn ystod haf 1812. Gwelodd yr ymgyrch a ddilynodd enciliad trychinebus Grande Armée Napoleon .ac ym 1813, ymunodd Prwsia ac Awstria â lluoedd Rwsia yn y Chweched Clymblaid yn erbyn Ffrainc. Arweiniodd ymgyrch filwrol anhrefnus at fyddin glymblaid fawr a drechodd Napoleon ym Mrwydr Leipzig yn Hydref 1813. Ymosododd y glymblaid ar Ffrainc a chipio Paris, gan orfodi Napoleon i ildio'i statws yn Ebrill 1814. Alltudiwyd ef i ynys Elba, rhwng Corsica a'r Eidal. Yn Ffrainc, adferwyd y Bourbons i rym. Fodd bynnag, dihangodd Napoleon o Elba yn Chwefror 1815 a chymerodd reolaeth o Ffrainc.[2][3] Ymatebodd y Cynghreiriaid trwy ffurfio Seithfed Clymblaid, a orchfygodd Napoleon ym Mrwydr Waterloo ym Mehefin 1815. Alltudiwyd ef gan y Prydeinwyr i ynys anghysbell Saint Helena yn yr Iwerydd, lle bu farw yn 1821 yn 51 oed. Cafodd Napoleon ddylanwad enfawr ar y byd modern, gan ddod â diwygiadau rhyddfrydol i'r llu o wledydd a orchfygodd, yn enwedig y Gwledydd Isel, y Swistir, a rhannau o'r Eidal modern a'r Almaen. Gweithredodd bolisïau rhyddfrydol yn Ffrainc a Gorllewin Ewrop.

  1. Roberts, A. (2016). 
  2. Cochran, Peter (16 July 2015). Byron, Napoleon, J.C. Hobhouse, and the Hundred Days. London: Cambridge Scholars Publishing. t. 60. ISBN 978-1443877428. Cyrchwyd 14 June 2021.
  3. Forrest, Alan (26 March 2015). Waterloo: Great Battles. Oxford University Press. t. 24. ISBN 978-0199663255. Cyrchwyd 14 June 2021.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy