Nathan Gill | |
---|---|
Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros Ranbarth Gogledd Cymru | |
Yn ei swydd 5 Mai 2016 – 27 Rhagfyr 2017 | |
Rhagflaenwyd gan | Aled Roberts |
Dilynwyd gan | Mandy Jones |
Arweinydd Plaid Annibyniaeth y DU yng Nghymru | |
Yn ei swydd 6 Rhagfyr 2014 – 26 Medi 2016 | |
Arweinydd | Nigel Farage |
Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd y swydd |
Dilynwyd gan | Neil Hamilton |
Aelod o Senedd Ewrop dros Gymru | |
Yn ei swydd 1 Gorffennaf 2014 – 31 January 2020 | |
Rhagflaenwyd gan | John Bufton |
Dilynwyd gan | diddymwyd yr etholaeth |
Manylion personol | |
Ganwyd | Kingston upon Hull, Lloegr | 6 Gorffennaf 1973
Plaid wleidyddol | Reform UK (ers 2019) |
Cysylltiadau gwleidyddol arall | Annibynnol (2018–2019) UKIP (2004–2018) Ceidwadwyr (cyn 2004) |
Priod | Jana[1] |
Plant | 5[2] |
Cartref | Llangefni, Ynys Môn |
Addysg | Coleg Menai |
Swydd | Dyn busnes |
Gwleidydd o Gymru a anwyd yn Lloegr yw Nathan Lee Gill (ganwyd 6 Gorffennaf 1973). Roedd yn Aelod Senedd Ewrop (ASE) dros etholaeth Cymru (2014-2019) ar ran Plaid Brexit. Roedd yn aelod o UKIP hyd at 6 Rhagfyr 2018 ac roedd yn aelod annibynnol o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2016 a Rhagfyr 2017.
Symudodd i fyw i Gymru yn y 1980au. Mae'n byw yn Llangefni, Ynys Môn gyda'i wraig a'i bump o blant. Bu'n aelod o'r Blaid Geidwadol cyn iddo ymaelodi a UKIP yn 2005.[3]
Yn Etholiad y Cynulliad, 2016 enillodd Gill sedd yn cynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru.[4] Ymgeisiodd am swydd arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad ond fe'i gurwyd gan y cyn-AS Ceidwadol Neil Hamilton, gyda Gill yn disgrifio y digwyddiad yn "bizarre".[5] Yn dilyn hyn gadawodd Gill grŵp UKIP yn y Cynulliad ac eistedd fel aelod annibynnol, gan haeru fod gormod o ffraeo mewnol yn y blaid.[6] Arhosodd fel aelod o'r blaid a'r arweinydd yng Nghymru, hyd nes i Neil Hamilton gael ei wneud yn arweinydd yn Medi 2016.[7] Ar 27 Rhagfyr 2017, cyhoeddodd y byddai yn ymddiswyddo fel aelod o'r Cynulliad a byddai'r dewis nesaf ar rhestr UKIP, Mandy Jones, yn cymryd ei sedd.[8] Gadawodd plaid UKIP yn Rhagfyr 2018.[9]
|iaith=
ignored (help)
|iaith=
ignored (help)