Nefoedd

Dante a Beatrice yn syllu ar rannau uchaf y Nefoedd; llun gan Gustave Doré ar gyfer y Divina Commedia.

Enw a ddefnyddir mewn nifer o grefyddau am fan lle mae eneidiau'r meirwon yn mwynhau bywyd ar ôl marwolaeth yw Nefoedd neu Nef. Fel rheol mae'n fan lle mae enedidiau'r sawl sydd wedi byw bywyd da yn cael eu gwobrwyo, mewn gwrthgyferbyniad ag Uffern lle4 mae eneidiau drygionus yn cael eu cosbi. Gall "nefoedd" heb briflythyren fod yn air arall am yr wybren. Enw arall a ddefnyddir am y Nefoedd yn aml yw Paradwys, er fod ystyr wreiddiol y gair hwnnw yn wahanol.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy