Nadroedd | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Squamata |
Is-urdd: | Serpentes |
Teuluoedd | |
Mae nadroedd yn ymlusgiaid cigysol hir a chul o fewn urdd y Serpentes (enw Lladin).[1] Fel pob cenogydd arall, mae nadroedd yn fertebratau ectothermig, ac yn amniot wedi'u gorchuddio â chen sy'n gorgyffwrdd. Mae gan lawer o rywogaethau o nadroedd benglogau â llawer mwy o gymalau na'u hynafiaid y madfall, sy'n eu galluogi i lyncu ysglyfaeth llawer mwy na'u pennau. Er mwyn darparu ar gyfer eu cyrff cul, mae organau pâr nadroedd (fel arennau) yn ymddangos un o flaen y llall yn hytrach nag ochr yn ochr, a dim ond un ysgyfaint sydd gan y mwyafrif. Mae rhai rhywogaethau wregys pelfig gyda phâr o grafangau ar y naill ochr i'r cloga sef y pen ôl. Mae madfall wedi esblygu cyrff hirfain di-goes na braich, a choesau llawer llai trwy esblygiad cydgyfeiriol, gan arwain at lawer o linachau o fadfallod heb goesau.[2] Mae'r rhain yn debyg i nadroedd, ond mae gan nifer o grwpiau cyffredin o fadfallod di-goes amrannau a chlustiau allanol, nad oes gan nadroedd ar y cyfan.
Mae nadroedd byw i'w cael ar bob cyfandir ac eithrio Antarctica, ac ar y rhan fwyaf o diroedd llai; mae eithriadau'n cynnwys rhai ynysoedd mawr, megis Iwerddon, Gwlad yr Iâ, yr Ynys Las, archipelago Hawaii, ac ynysoedd Seland Newydd, yn ogystal â llawer o ynysoedd bach Iwerydd a chefnforoedd canol y Môr Tawel[3] Yn ogystal a nadroedd tirol, mae nadroedd y môr yn gyffredin ledled cefnforoedd India a'r Môr Tawel. Ceir mwy nag ugain o deuluoedd sy'n cael eu cydnabod ar hyn o bryd, ac sy'n cynnwys tua 520 genw a thua 3,900 o rywogaethau.[4] Maent yn amrywio o ran maint o 10.4 centimetr fel neidr-edafedd Barbados (Tetracheilostoma carlae) i 12.8 metr ee y peithon.[5][6] Roedd y rhywogaeth ffosil Titanoboa cerrejonensis yn 12.8 metr (42 tr) hyd.[7] Credir bod nadroedd wedi esblygu o naill ai madfallod a arbenigai mewn tyllu neu fadfallod dyfrol, efallai yn ystod y cyfnod Jwrasig, gyda'r ffosilau cynharaf y gwyddys amdanynt i'w cael rhwng143 miliwn o flynyddoedd CP a 167 miliwn CP.[8][9]
Ymddangosodd amrywiaeth nadroedd modern yn ystod yr epoc Paleosenaidd (c. 66 i 56 Ma yn ôl, hynny yw, ar ôl y digwyddiad difodiant Cretasaidd-Paleogenaidd). Mae'r disgrifiadau hynaf a gofnodwyd o nadroedd i'w cael yn y Brooklyn Papyrus.
Nid yw'r rhan fwyaf o rywogaethau o neidr yn wenwynig ac mae'r rhai sydd â gwenwyn yn ei ddefnyddio'n bennaf i ladd a darostwng ysglyfaeth yn hytrach nag ar gyfer hunanamddiffyn. Mae gan rai wenwyn sy'n ddigon cryf i achosi anaf poenus neu farwolaeth i bobl. Mae nadroedd diwenwyn naill ai'n llyncu ysglyfaeth yn fyw neu'n lladd trwy gyfyngiad.