Math | caer Rufeinig, adeilad Rhufeinig, safle archaeolegol |
---|---|
Cysylltir gyda | Silwriaid, Maridunum |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Cwrt Herbert |
Sir | Blaenhonddan |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.664706°N 3.813039°W |
Cod OS | SS747977 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM215 |
Caer Rufeinig a godwyd yng Nghastell-nedd yw Nidum (Lladiniad o'r gair Brythoneg *Nid, sef 'Nedd'); cyfeiriad grid SS747977. Fe'i codwyd rhwng tua 75 ac 120 OC ar diriogaeth y Silwriaid fel rhan o rwydwaith o gaerau a ffyrdd ar draws de Cymru.
Fe'i canfuwyd yn agos i'r ystad dai a adnabyddir fel Roman Way, ar lan orllewinol Afon Nedd. Roedd y gaer yn gorchuddio ardal eang sy'n gorwedd dan feysydd chwarae Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin heddiw.
Codwyd caer bren yno tua'r flwyddyn 75 OC yng nghyfnod y llywodraethwr Julius Frontinus. Tynwyd y gaer gyntaf honno i lawr a chodi un o gerrig yn ei lle tua'r flwyddyn 120 OC, ond ymddengys mai bur fu ei barhad. Mae rhannau o'r pyrth deheuol a de-ddeheuol i'w gweld ac mae rhai rhannau eraill o'r safle wedi'u cloddio gan archaeolegwyr.[1]
Roedd yn mesur tua 525m wrth 525m ac yn ddigon mawr i fod yn wersyll i tua 500 o filwyr. Cysylltiai ffordd Rufeinig caer Nidum gyda Maridunum (Caerfyrddin) i'r gorllewin a Viroconium (Caerwrygion) i'r dwyrain.[2]
Mae darganfyddiadau o'r safle i'w gweld yn Amgueddfa Castell-nedd.