Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8564°N 5.1261°W |
Gwleidyddiaeth | |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pentref bychan yn Sir Benfro yw Niwgwl[1] (Saesneg: Newgale).[2] Fe'i lleolir yng ngorllewin y sir, ar lan Bae Sain Ffraid, tua hanner ffordd rhwng Tyddewi i'r gorllewin a Hwlffordd i'r dwyrain. Rhed briffordd yr A487 trwy'r pentref.
Mae'r pentref yn adnabyddus am ei draeth tywodlyd llydan sy'n denu twristiaid yn yr haf. Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd heibio rhwng y pentref a'r traeth. Crëwyd y traeth gan storm ar 25 Hydref 1859. [3][4] Mae stormydd yn achosi difrod yn aml.