Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd, pwnc gradd |
---|---|
Math | gwyddoniaeth |
Rhan o | meddygaeth, seicoleg, bywydeg |
Yn cynnwys | Niwrooffioleg, cognitive neuroscience, Neuroanatomi |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Astudiaeth wyddonol sydd yn ymwneud â strwythurau, swyddogaethau, ac anhwylderau'r system nerfol (yr ymennydd, llinyn yr asgwrn cefn, a'r system nerfol berifferol) yw niwrowyddoniaeth.[1] Maes amlddisgyblaethol ydyw sydd yn cyfuno ffisioleg, anatomeg, bioleg foleciwlaidd, bioleg datblygiad, sytoleg, seicoleg, ffiseg, cyfrifiadureg, cemeg, meddygaeth, ystadegaeth, a modelu mathemategol er mwyn deall priodweddau niwronau, celloedd glial, a chylchedau niwral.[2][3][4][5][6] Niwrowyddoniaeth ydy un o'r prif meysydd sydd yn mynd i'r afael â sylfeini biolegol dysgu, cof, ymddygiad, canfyddiad, ac ymwybyddiaeth.[7]
Yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g, gwyddonwyr megis Santiago Ramón y Cajal a Camillo Golgi oedd y cyntaf i ddefnyddio technegau staenio i astudio strwythur niwronau unigol a'r cysylltiadau rhyngddynt, gan osod sylfaen i niwrowyddoniaeth gellog a moleciwlaidd. Yn sgil y chwyldro electroneg, dyfeisiwyd dulliau cyfrifiadurol o astudio'r ymennydd, gan gynnwys electroenceffalograffeg (EEG) a thomograffeg allyrru positronau (PET). Gyda'r dechnoleg hon, galluogid i wyddonwyr archwilio gweithgareddau'r ymennydd mewn amser real. Yn y degawdau diweddar, mae amrediad y ddisgyblaeth wedi ehangu i gynnwys is-feysydd newydd megis niwrowyddoniaeth wybyddol, niwrowyddoniaeth gyfrifiadol, a niwrofoeseg, ac i fenthyg o ddatblygiadau ym mheirianneg genetig ac optogeneteg. Defnyddir nifer o dechnegau gan niwrowyddonwyr i astudio niwronau unigol ar lefelau moleciwlaidd a chellog, ac i ddelweddu tasgau synhwyraidd, echddygol, a gwybyddol yn yr ymennydd.
Mae datblygiadau yn niwrowyddoniaeth wedi arwain at ddealltwriaeth well o'r mecanweithiau sydd yn sail i swyddogaethau'r ymennydd, yn ogystal â datblygu therapïau newydd ar gyfer anhwylderau niwrolegol a seiciatrig. Mae gan niwrowyddoniaeth hefyd oblygiadau eang ar gyfer cymdeithas, gan gynnwys cwestiynau moesegol ynglŷn ag ymyrru â'r ymennydd a'r system nerfol.
The last frontier of the biological sciences – their ultimate challenge – is to understand the biological basis of consciousness and the mental processes by which we perceive, act, learn, and remember.