Math | eglwys gadeiriol Gatholig, basilica minor, atyniad twristaidd |
---|---|
Enwyd ar ôl | y Fendigaid Forwyn |
Agoriad swyddogol | 7 Rhagfyr 2024 |
Sefydlwyd | |
Nawddsant | y Forwyn Fair |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Île de la Cité |
Sir | Notre-Dame, 4ydd arrondissement Paris |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 5,500 m² |
Cyfesurynnau | 48.853°N 2.3498°E |
Cod post | 75004 |
Hyd | 127 metr |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig Ffrengig, Early Gothic architecture, Rayonnant, Gothig clasurol |
Perchnogaeth | gwladwriaeth Ffrainc |
Statws treftadaeth | monument historique classé |
Sefydlwydwyd gan | Maurice de Sully |
Cysegrwyd i | y Forwyn Fair |
Manylion | |
Deunydd | dimension stone |
Esgobaeth | Archesgobaeth Paris |
Eglwys gadeiriol ym Mharis yw Notre-Dame de Paris (Ffrangeg: Ein Harglwyddes o Baris). Saif ar ynys o'r enw Île de la Cité yn Afon Seine. Mae'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.
Cychwynnwyd adeiladu'r gadeirlan yn 1160 a roedd y rhan fwyaf wedi ei gwblhau erbyn 1260, er fe'i addaswyd yn aml yn y canrifoedd ers hynny. Yn y 1790au halogwyd yr adeilad yn ystod Chwyldro Ffrainc pan ddinistriwyd neu difrodwyd ei ddelweddau crefyddol. Yn fuan wedi cyhoeddi nofel Victor Hugo Notre-Dame de Paris yn 1831, cododd ddiddordeb cyhoeddus yn yr adeilad unwaith eto. Cychwynnodd gynllun mawr i adfer yr adeilad gan Eugène Viollet-le-Duc yn 1845 a barhaodd am 25 mlynedd. Cafwyd cyfnod arall o lanhau ac adfer yn 1991–2000.[1]