Yr Oesoedd Canol Diweddar yw'r term a ddefnyddir i ddynodi cyfnod olaf yr Oesoedd Canol. Fel yn achos y term 'Oesoedd Canol' ei hun, mae'n derm a ddyfeiswyd gan haneswyr ar gyfer hanes Ewrop ac fel rheol mae'n cael ei gyfyngu i gyfandir Ewrop a gwledydd Môr y Canoldir. Mae ei hyd yn amrywio rywfaint o wlad i wlad ac o ddiwylliant i ddiwylliant, ond yn gyffredinol mae'n ymestyn o ddechrau'r 14g hyd ddiwedd y 15g a chyfnod y Dadeni a dechrau'r Cyfnod Modern. Yng Nghymru ceir tueddiad i'w ddiffinio yn ôl hanes gwleidyddol y wlad, gan gyfateb yn fras i'r cyfnod rhwng cwymp y Gymru annibynnol gyda marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd hyd fuddugoliaeth Harri Tudur ar Faes Bosworth a dechrau cyfnod y Tuduriaid.