Ojibwe | ||
---|---|---|
Anishinaabemowin, ᐊᓂᔑᓈᐯᒧᐎᓐ | ||
Ynganiad IPA | [anɪʃɪnaːpeːmowɪn] | |
Siaredir yn | Canada, Unol Daleithiau | |
Rhanbarth | Canada: Quebec, Ontario, Manitoba, Saskatchewan, grwpiau yn Alberta, British Columbia; yr Unol Daleithiau: Michigan, Wisconsin, Minnesota, grwpiau yng Ngogledd Dakota, Montana | |
Cyfanswm siaradwyr | 56,531 (47,740 yng Nghanada; 8,791 yn yr Unol Daleithiau) | |
Teulu ieithyddol | Algic
| |
System ysgrifennu | Lladin (Gwyddor Ojibwe), Canadian Aboriginal syllabics | |
Statws swyddogol | ||
Iaith swyddogol yn | Canada Unol Daleithiau | |
Rheoleiddir gan | ||
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | oj | |
ISO 639-2 | oji | |
ISO 639-3 | oji – Macroiaith ISO 639 codau unigol: ojs – [[Severn Ojibwa]] ojg – [[Eastern Ojibwa]] ojc – [[Central Ojibwa]] ojb – [[Northwestern Ojibwa]] ojw – [[Western Ojibwa]] ciw – [[Chippewa]] otw – [[Ottawa]] alq – [[Algonquin]] | |
Wylfa Ieithoedd | 62-ADA-d (Ojibwa+Anissinapek) | |
Iaith o'r teulu ieithyddol Algonciaidd[1][2] ydy Ojibwe,[3] a elwir hefyd Anishinaabemowin. Mae ganddi hi gyfres o dafodieithoedd, sydd yn defnyddio systemau ysgrifennu (nid genedigol) gwahanol - sydd ag enwau lleol gwahanol. Rhwng y tafodieithoedd hyn, ni ystyrir yr un yn bwysicach na'r lleill. Dengys hyn ddiffyg undeb rhwng cenhedloedd Ojibwe eu hiaith.
Siaredir tafodieithoedd Ojibwe yng Nghanada o Québec de-orllewinol, drwy Ontario, Manitoba, a rhannau o Saskatchewan, i rai cymunedau yn Alberta;[4][5] ac yn yr Unol Daleithiau, o Michigan, drwy Wisconsin, i Minnesota, gyda chymunedau yn North Dakota a Montana, yn ogystal â grwpiau mudol yn Kansas ac Oklahoma.[5][6]
Yr Ojibwe yw'r iaith Cenhedloedd Cyntaf gyda'r ail fwyaf nifer o siaradwyr yng Nghanada (ar ôl y Cree),[7] a gyda'r perdwerydd fwyaf nifer o siaradwyr yn yr Unol Daleithiau ac yng Nghanada ar ôl Nafacho, Inuit, a Cree.