Swltaniaeth Oman سلطنة عُمان (Arabeg) Ynganiad: Salṭanat ʿUmān | |
Arwyddair | Mae gan Brydferthwch Gyfeiriad |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad, swltanieth |
Prifddinas | Muscat |
Poblogaeth | 4,829,480 |
Sefydlwyd | 751 (Ffurfiwyd Imamiaeth Oman) 1507–1656 (Rheolwyd gan Bortiwgal) |
Anthem | Nashid as-Salaam as-Sultani |
Pennaeth llywodraeth | Haitham bin Tarik Al Said |
Cylchfa amser | UTC+04:00, Asia/Muscat |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dwyrain Canol, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi, De-orllewin Asia, Gwladwriaethau'r Gwlff |
Gwlad | Oman |
Arwynebedd | 309,500 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Sawdi Arabia, Iemen, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Iran |
Cyfesurynnau | 21°N 57°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cabinet Oman |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Oman |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Swltan Oman |
Pennaeth y wladwriaeth | Haitham bin Tarik Al Said |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Swltan Oman |
Pennaeth y Llywodraeth | Haitham bin Tarik Al Said |
Crefydd/Enwad | Islam |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $88,192 million, $114,667 million |
Arian | Omani rial |
Canran y diwaith | 16 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 2.774 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.816 |
Gwlad yn Arabia (de ddwyrain Asia) yw Oman' neu'n swyddogol, Swltaniaeth Oman sef gwlad a reolir gan swltan. Y gwledydd cyfagos yw'r Emiradau Arabaidd Unedig i'r gogledd orllewin, Sawdi Arabia i'r gorllewin a Iemen i'r de orllewin. Mae'r arfordir yn wynebu Môr Arabia yn y de-ddwyrain, ac aber Gwlff Oman yn y gogledd-ddwyrain.
Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Muscat. Roedd gan Oman boblogaeth o tua 5.28 miliwn yn 2024, cynnydd o 4.60% yn y boblogaeth o 2023 a hi yw'r 123ain wlad fwyaf poblog.[1] Mae'r allglofannau Madha a Musandam wedi'u hamgylchynu gan yr Emiradau Arabaidd Unedig ar eu ffiniau tir, gyda Chulfor Hormuz (y mae'n ei rannu ag Iran) a Gwlff Oman yn ffurfio ffiniau arfordirol Musandam.