Opiwm

Tyfu opiwm yn ardal Malwa, gorllewin India

Cyffur poenliniarol narcotig yw opiwm a geir o godennau aeddfed y pabi opiwm wedi i'w betalau cwympo (Papaver somniferum L. neu paeoniflorum).

Mae tyfu cnydau opiwm wedi bod yn bwysig mewn rhai ardaloedd gwledig yn ne Asia ers canrifoedd lawer. Mae canran uchel iawn o opiwm y byd yn dod o Affganistan, er enghraifft. Mae cnydau sylweddol yn cael eu tyfu ym Mhacistan, y Triongl Aur yn Ne-ddwyrain Asia (yn arbennig ym Myanmar), Colombia a Mecsico hefyd.

Defnyddir y cyffur at ddibenion meddygol ac fel cyffur adloniadol. Fel cyffur naturiol roedd yn rhan o ddiwylliant de a dwyrain Asia am ganrifoedd, a chan amlaf yn cael ei ysmygu neu ei fwyta er mwyn yr effeithiau narcotig, pleserus. Roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio'n gyfreithlon yn Ewrop a gogledd America ac roedd yn gyffur poblogaidd iawn yn y 18g. Ymhlith ei ddefnyddwyr enwocaf mae De Quincey, Tennyson, Iolo Morganwg ac Edgar Allan Poe. Ond erbyn heddiw mae'n cael ei brosesu mewn ffatrïoedd anghyfreithlon i gynhyrchu heroin - cyffur cryfach o lawer - ac wedyn yn cael allforio'n ddirgel.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy