Organeb ungellog

Organeb ungellog
Valonia ventricosa, rhywogaeth o algâu gyda diametr rhwng 1 a 4 cm - sy'n ei wneud yn un o'r mathau mwyaf.

Peth byw gyda dim ond un gell yw organeb ungellog. Mae bacteria yn organeb ungellol. Credir mai dyma'r math hynaf o fywyd ar wyneb y Ddaear, gyda'r protogell yn ffurfio rhwng 3.8 a 4 biliwn cyn y presennol (CP).[1][2]

Gelwir creaduriaid gyda mwy nag un gell yn Organebau amlgellog.

Y prif grwpiau o organebau ungellog yw: bacteria, archaea, protosoaid, algâu ungellog a ffyngau ungellog. Gellir eu dosbarthu'n ddau gategori: organebau procaryotig ac ewcaryotig.

  1. An Introduction to Cells, ThinkQuest, http://library.thinkquest.org/27819/ch1_5.shtml, adalwyd 2013-05-30
  2. Pohorille, Andrew; Deamer, David (2009-06-23). "Self-assembly and function of primitive cell membranes". Research in Microbiology 160: 449–456. doi:10.1016/j.resmic.2009.06.004. http://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S092325080900076X. Adalwyd 2015-10-28.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy