Oxford Dictionary of National Biography

Oxford Dictionary of National Biography
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
GolygyddColin Matthew Edit this on Wikidata
CyhoeddwrGwasg Prifysgol Rhydychen Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi2004 Edit this on Wikidata
Genrebywgraffiadur cenedlaethol Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganDictionary of National Biography Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiRhydychen Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.oxforddnb.com/ Edit this on Wikidata

Bywgraffiadur a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Rhydychen yw'r Oxford Dictionary of National Biography. Mae'n cynnwys bywgraffiadau o bobl o Ynysoedd Prydain, o'r amseroedd cynharaf hyd at y gorffennol diweddar. Mae'n olynydd i'r Dictionary of National Biography, a gyhoeddwyd mewn 63 cyfrol rhwng 1885 a 1900. Syr Leslie Stephen, tad Virginia Woolf, oedd golygydd cyntaf y DNB. Cyhoeddwyd atodiadau i'r bywgraffiadur yn ysbeidiol rhwng 1901 a 1996 er mwyn cynnwys marwolaethau diweddar, ond ni wnaed ymdrech i ddiwygio'r gwaith cyfan, a oedd yn cynnwys nifer o destunau Fictoraidd, nes 1992. Yna fe gychwynnodd gwaith ar fersiwn newydd â'r golygydd Colin Matthew wrth y llyw.[1] Cyhoeddwyd hyn, mewn print ac ar lein, ar 23 Medi 2004.

Cynyddwyd nifer y bywgraffiadau o 30,941 yn y DNB gwreiddiol i 54,992 yng nghyhoeddiad 2004 o'r ODNB, a nifer yr awduron o 653 i 12,550. 60 cyfrol sydd gan fersiwn print yr ODNB; yn wahanol i arfer yr hen DNB, cyhoeddwyd y rhain i gyd ar y cyd.[2] Caiff y fersiwn ar-lein ei ddiwygio tair gwaith bob blwyddyn.[3]

  1. (Saesneg) Introduction; History of the DNB; Plans for a new DNB. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2014.
  2. Barker, Nicolas (10 Rhagfyr 2004). The biographists’ tales, The Times Literary Supplement, Rhifyn 5306, tud. 5–7
  3. (Saesneg) About the DNB. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2014.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in