Parc treftadaeth ger Trehafod, Rhondda Cynon Taf, yw Parc Treftadaeth Cwm Rhondda (Saesneg: Rhondda Heritage Park). Mae'n atyniad i dwristiaid, sy'n anelu at roi darlun o fywyd y glowyr a'r gymuned lofaol. Ceir teithiau tywysedig trwy rai o weithfeydd Glofa Lewis Merthyr, yn cael eu harwain gan gyn-lowyr.
Yn mis Mai 2000, dadorchuddiwyd cerflun o lamp glowr ger y fynedfa, fel cofeb i'r glowyr a fu farw mewn damweiniau neu o afiechyd o ganlyniad i weithio ym Maes Glo De Cymru.