Pasg

Atgyfodiad Crist gan Piero della Francesca

Gŵyl bwysicaf Cristnogaeth yw'r Pasg (Groeg: Πάσχα, Pascha). Mae Cristnogion drwy'r byd yn dathlu atgyfodiad Iesu Grist ar Ddydd Sul y Pasg, ar ôl ei groeshoelio ar Ddydd Gwener y Groglith, sef y Dydd Gwener cyn hynny.

Digwyddodd y Groeshoeliad yn ystod y Pasg Iddewig, gŵyl sy'n cael ei disgrifio yn yr Hen Destament (Exodus 12:1-30). Mae'r Pasg Cristnogol wedi ei sylfaenu ar y Pasg Iddewig yn drosiadol hefyd: mae'r Testament Newydd yn galw Iesu yn "Oen y Pasg" (1 Corinthiaid 5:7).

Gall "y Pasg" hefyd gyfeirio at "Dymor y Pasg", sy'n awr yn para am 50 diwrnod hyd y Pentecost. Mae'r Pasg yn nodi diwedd Tymor y Grawys.

Amrywia dyddiad y Pasg o flwyddyn i flwyddyn, rhwng diwedd mis Mawrth a diwedd mis Ebrill; neu i Eglwysi Uniongred y dwyrain, rhwng dechrau Ebrill a dechrau Mai. Bu canrifoedd lawer o ddadlau ynghylch dyddiad y Pasg, ond yn y diwedd cytunwyd i dderbyn dull yr Eglwys Alecsandraidd, yn awr yr Eglwys Goptaidd, mai'r Pasg yw'r dydd Sul cyntaf ar ôl pedwerydd diwrnod ar ddeg cylch y Lleuad sydd ar neu ar ôl cyhydnos y gwanwyn.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy