Paul Monaghan

Paul Monaghan

Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – 3 Mai 2017
Rhagflaenydd John Thurso
Olynydd Jamie Stone

Geni (1966-11-11) 11 Tachwedd 1966 (57 oed)
Montrose, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Caithness, Sutherland ac Easter Ross
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Priod Stephanie Anderson
Plant Sian Anderson
Alma mater Prifysgol Stirling
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Gwleidydd o'r Alban yw Paul Monaghan (ganwyd 11 Tachwedd 1966) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Caithness, Sutherland ac Easter Ross; mae'r etholaeth yn Ucheldir yr Alban, yr Alban. Cynrychiola Blaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Fe'i ganed ym Montrose cyn symud gyda'i deulu i Inverness, yn ddwy oed. Derbyniodd Radd Cyntaf gydag anrhydedd ym Mhrifysgol Sterling am waith ar Gymdeithaseg a Seicoleg, cyn cwbwlhau Doethuriaeth mewn Polisiau Cymdeithasol. Mae'n aelod o Gymdeithas Seicoleg Prydain a Chymrawd o Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Institute of Leadership and Management).[1].

Monaghan oedd sefydlydd ymgyrch Ucheldir yr Alban dros Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014. Ar hyn o bryd mae'n byw yn Contin, Swydd Ross gyda'i deulu. Bu'n aelod o'r SNP er 1994.

  1. Munro, Ally (8 Mai 2015). "SNP win Caithness, Sutherland and Easter Ross". The Scotsman. Johnston Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 9 Mai 2015.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy