Yn ôl y traddodiad Beiblaidd a geir yn Llyfr Genesis roedd Pedair Afon Paradwys yn llifo allan i'r byd o Ardd Eden. Yn yr ardd honno, y Baradwys Ddaearol, mae Afon Eden. Wrth i'r afon honno lifo allan o ardd Baradwys roedd hi'n ymrannu'n bedair ffrwd, sef afonydd Pishon (neu 'Pison'), Gihon, Hidecel ac Ewffrates:
Roedd Afon Pishon yn amgylchynu gwlad Hafila (Arabia), lle roedd aur, onyx a resin aromataidd i'w cael. Llifai Gihon o gwmpas gwlad Kush (Yr Aifft uchaf) neu Ethiopia; diau mai Afon Nîl a olygid. Mae lle i gredu fod Hidecel neu 'Hiddekel' yn enw hynafol ar Afon Tigris ym Mesopotamia lle ceir y pedwaredd afon, Ewffrates. Mae mapiau o'r Oesoedd Canol yn dangos y pedair afon hyn.