Peiriant chwilio rhyngrwyd

Peiriant sy'n chwilio am gyfeiriadau a gwybodaeth o fewn data cyfrifiadurol, digidol yw peiriant chwilio (cyfrifiadurol)). Mae'n defnyddio hypergysylltiadau sy'n bresennol mewn gwefannau neu gronfeydd data er mwyn asesu pwysigrwydd y wybodaeth a'u rhestru ar ffurf hits, gyda'r rhai mwyaf perthnasol neu bwysicaf ar frif y ddalen. Mae porwyr da yn cyrchu'r wybodaeth a geisir yn sydyn, o fewn eiliadau.

Y peiriannau chwilio mwyaf poblogaidd yw porwyr y we fyd-eang. Un o'r mwyaf o ran faint a phoblogrwydd ar y we yw Google, gyda fersiynau ar gyfer dros gant o ieithoedd y byd, yn cynnwys y Gymraeg.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy