Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.053°N 4.283°W |
Cod OS | SH470531 |
Cod post | LL54 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Pentref mawr yng nghymuned Llanllyfni, Gwynedd, Cymru, yw Pen-y-groes[1] neu Penygroes[2] ( ynganiad ). Saif yn Nyffryn Nantlle, ger pentrefi Llanllyfni, Carmel a Groeslon.
Lleolir Ysgol Dyffryn Nantlle yn y pentref, ynghyd â ffatri papur toiled a chlwb peldroed enwog Nantlle Vale. Dyma ganolfan fasnachol ac economaidd y dyffryn, bellach wedi edwino rhyw gymaint ers agor ffordd osgoi heibio pentrefi'r cwm. Yno hefyd mae meddygfeydd, llyfrgell, canolfan dechnoleg, canolfan hamdden Plas Silyn, fferyllydd a stad ddiwydiannol. Cydnabyddir fel un o'r cymunedau Cymreiciaf yn y byd, gyda mwy na 90% yn gallu'r Gymraeg yno.
Mae bysiau sy'n rhedeg i Gaernarfon yn gwasanaethu'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]