Math | caer Rufeinig, adeilad Rhufeinig |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1.6 ha |
Cyfesurynnau | 52.9837°N 4.2697°W |
Safle caer Rufeinig ger Bryncir, Gwynedd, yw Pen Llystyn. Caer atodol oedd hi, yn gysylltiedig â chaer fawr Segontium i'r gogledd (ger Caernarfon), pencadlys y Rhufeiniaid yng ngogledd Cymru.
Roedd darganfod y gaer, a ddaeth i'r golwg trwy gloddio mewn pwll grafel ger y pentref, yn fodd i gadarnhau cwrs y ffordd Rufeinig a gysylltai Segontiwm â chaer Tomen y Mur yn Ardudwy.
Caer bren oedd hi, tua 1.6 hectar, a godwyd tua'r flwyddyn 80 OC ar gyfer garsiwn cymysg o filwyr troed a marchogion yn ystod ymgyrch y Rhufeiniaid i oresgyn gogledd Cymru. Ond ymddengys iddi gael ei rhoi heibio yn fuan ar ôl hynny ac i gaer fechan - gwarchodfa yn hytrach na chaer go iawn - gael ei chodi yno yn ddiweddarach, ond ni pharhaodd honno am hir chwaith.
Efallai fod y gaer Rufeinig ym Mhen Llystyn yn gorwedd yn nhiriogaeth llwyth y Gangani, llwyth Celtaidd Llŷn, efallai ar y ffin rhyngddynt hwy a'u cymdogion yr Ordoficiaid i'r dwyrain. Mae olion y muriau i'w gweld er bod y chwarel raean yno wedi difetha'r tu mewn.
Ym mur yr ardd yn ffermdy Llystyn Gwyn, ychydig i'r gogledd o'r gaer mae carreg o'r 6g gydag arysgrif mewn Lladin ac Ogam. Yn y Lladin mae'n darllen ICORI(X) FILIUS / POTENT / INI (Icorix, mab Potentinus). Mae cerrig dwyieithog, Lladin ac Ogam, yn gyffredin yn ne-orllewin Cymru, ond dyma'r unig un yn y gogledd-orllewin.