Pencampwriaeth y Chwe Gwlad

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad
Chwaraeon Rygbi'r undeb
Sefydlwyd 1883
Nifer o Dimau 6
Gwledydd Baner Yr Alban Yr Alban
Baner Cymru Cymru
Baner Yr Eidal Yr Eidal
Baner Ffrainc Ffrainc
Iwerddon
Baner Lloegr Lloegr
Pencampwyr presennol Iwerddon
Gwefan Swyddogol www.rbs6nations.com

Pencampwriaeth flynyddol rhwng timau rygbi'r undeb yr Alban, Cymru, yr Eidal, Ffrainc, Iwerddon a Lloegr yw Pencampwriaeth y Chwe Gwlad (Saesneg: Six Nations Championship, Ffrangeg: Tournoi des six nations, Gwyddeleg: Comórtas na Sé Náisiún, Eidaleg: Torneo delle sei nazioni, Gaeleg: Na Sia Nàiseanan).

Y Chwe Gwlad yw olynydd Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad (1883-1909 a 1932-39) rhwng yr Alban, Cymru, Iwerddon a Lloegr ddaeth yn Bencampwriaeth y Pum Gwlad wedi i Ffrainc ymuno (1910–31 a 1947–99). Ychwanegiad Yr Eidal yn 2000 arweiniodd at ffurfio'r Chwe Gwlad.

Lloegr a Chymru sydd â'r record am y nifer fwyaf o Bencampwriaethau y Pedair, Pum a Chwe Gwlad gyda 39 teitl yr un. Erbyn 2024 roedd Lloegr wedi ennill 29 pencampwriaeth yn llwyr (a rhannu 10) tra bod Cymru wedi ennill 28 pencampwriaeth yn llwyr (a rhannu 11).[1]

Ers cychwyn cyfnod y Chwe Gwlad yn 2000, dim ond yr Eidal a'r Alban sydd heb ennill teitl.

  1. "6Nations Roll of Honour". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-03. Cyrchwyd 2016-02-07. Unknown parameter |published= ignored (help)

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy