Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020
Dyddiad1 Chwefror – 14 Mawrth 2020
Gwledydd
Ystadegau'r Bencampwriaeth
Pencampwyr(27fed tro)
Gemau a chwaraewyd15
Gwefan swyddogolsixnationsrugby.com
2019 (Blaenorol) (Nesaf) 2021

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020 yw'r 21af yng nghyfres Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sef prif gystadleuaeth rygbi'r undeb yn Hemisffer y Gogledd. Chwaraeir pymtheg gêm dros gyfnod o bum penwythnos rhwng 1 Chwefror a 14 Mawrth 2020. Caiff ei galw, hefyd, yn "Gystadleuaeth NatWest y Chwe Gwlad" oherwydd cyfraniad y noddwyr: Banc y National Westminster[1].

Y chwe gwlad yw Iwerddon, Lloegr, Cymru, Ffrainc, Yr Alban a'r Eidal. Os cyfrifir cyn-gystadlaethau (y Cystadlaethau Cartref a Phencampwriaeth y Pum Gwlad) yna dyma'r 125ain cystadleuaeth.

Enillodd Lloegr y Pencampwriaeth ar 31 Hydref 2020, ar ôl i'r gemau oedd yn weddill gael eu gohirio o fis Mawrth oherwydd y pandemig COVID-19.

  1. NatWest 6 Nations Archifwyd 2018-01-25 yn y Peiriant Wayback adalwyd 6 Chwefror 2018

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy