Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.943089°N 4.162283°W |
Gwleidyddiaeth | |
Pentref bychan yn Eifionydd, Gwynedd, yw Penmorfa ( ynganiad ) . Mae'n gorwedd tua milltir i'r gorllewin o Dremadog ar bwys yr A487.
Fe'i gelwir yn Benmorfa am ei fod yn gorwedd ar ben gorllewinol morfa Tremadog, sy'n rhan o'r Traeth Mawr; buasai'r tir hwn yn wlypach o lawer cyn i William Madocks godi morglawdd dros geg y Traeth Mawr.
Cofrestwryd Eglwys Sant Beuno, Penmorfa yn adeilad Gradd II* gan Cadw. Mae wedi cau ers rhai blynyddoedd.
Ar ochr arall yr Alltwen i'r gogledd o'r pentref ceir hen blasdy'r Gesail Gyfarch gyda phlasdy'r Clenennau yn ei wynebu dros y cwm. Ar wahân i'r A487, mae lonydd bychain dros y morfa yn cysylltu'r pentref â Pentrefelin a Cricieth i'r de-orllewin a Penamser a Phorthmadog i'r de-ddwyrain.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]