Arwyddair | Virtue, liberty, and independence |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
Enwyd ar ôl | William Penn |
Prifddinas | Harrisburg |
Poblogaeth | 13,002,700 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Pennsylvania |
Pennaeth llywodraeth | Josh Shapiro |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00, America/Efrog Newydd |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canolbarth yr Iwerydd, Northeastern United States, taleithiau cyfagos UDA |
Sir | Unol Daleithiau America |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 119,283 km² |
Uwch y môr | 335 metr |
Gerllaw | Llyn Erie, Afon Delaware |
Yn ffinio gyda | Efrog Newydd, New Jersey, Delaware, Maryland, Gorllewin Virginia, Ohio, Ontario, Province of Quebec, Canada Uchaf, Province of Canada |
Cyfesurynnau | 41°N 77.5°W |
US-PA | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Pennsylvania |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol Pennsylvania |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Llywodraethwr Pennsylvania |
Pennaeth y Llywodraeth | Josh Shapiro |
Mae Pennsylvania (hefyd yn Gymraeg Pensylfania)[1] yn un o daleithiau Unol Daleithiau America. Ei llysenw yw'r Dalaith Maen Clo a'i henw swyddogol yw Cymanwlad Pennsylvania. Y ddwy ddinas fwyaf yw Philadelphia a Phittsburgh.
Gwladychwyd tiroedd eang i'r gogledd a'r gorllewin o Philadelphia gan Grynwyr o Gymru yn yr 17g, ac mae'n debyg y symbylwyd y gwladychiad gan y dyhead i gael rhyddid i addoli yn ôl eu credo. Mae'r nofel gan Marion Eames Y Rhandir Mwyn wedi ei seilio ar hanes y gwladychiad hwn.
Erbyn 1700, roedd un traean (33%) o'r dalaith yn Gymry. Ceir llawer o enwau lleoedd Cymraeg a Chymreig yma hyd heddiw - sy'n dyst i'r gwladychu hwn. Yn niwedd y 18g cafwyd ail don o wladychu, wedi'i arwain gan Morgan John Rhys o'r enw Cambria ac a elwir heddiw Tir Cambria (Cambria Country). Erbyn Cyfrifiad 2003-6 dim ond 1.5% oedd yn galw'u hunain 'o darddiad Cymreig'.[2]
Ar fur dwyreiniol Neuadd y Dref yn Philadelphia, er enghraifft, ceir plac sy'n cynnwys y geiriad hwn:
“ |
Perpetuating the Welsh heritage, and commemorating the vision and virtue of the following Welsh patriots in the founding of the City, Commonwealth, and Nation: William Penn, 1644-1718, proclaimed freedom of religion and planned New Wales later named Pennsylvania. Thomas Jefferson, 1743-1826, third President of the United States, composed the Declaration of Independence. Robert Morris, 1734-1806, foremost financier of the American Revolution and signer of the Declaration of Independence. Governor Morris, 1752-1816, wrote the final draft of the Constitution of the United States. John Marshall, 1755-1835, Chief Justice of the United States and father of American constitutional law. |
” |
Ceir ffiniau taleithiau: Delaware i'r de-ddwyrain, Maryland i'r de, Gorllewin Virginia i'r de-orllewin, Ohio i'r gorllewin, Llyn Erie ac Ontario, Canada i'r gogledd-orllewin, Efrog Newydd i'r gogledd a New Jersey i'r dwyrain. Asgwrn cefn y dalaith yw Mynyddoedd Appalachia sy'n gorwedd yng nghanol y dalaith, o'r gogledd i'r de.