Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanbedr |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.823°N 4.084°W |
Cod OS | SH596270 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Pentref bychan yn ardal Ardudwy, Gwynedd yw Pentre Gwynfryn ( ynganiad ). Fe'i lleolir tua milltir i'r dwyrain o Lanbedr wrth gymer Afon Artro ac Afon Cwmnantcol.
Saif y pentref gwledig ar ffordd sy'n dringo o Lanbedr i gyfeiriad Cwm Nantcol a bryniau'r Rhinogau. Y fferm pellaf yng nghesail y cwm yw Maesygarnedd, rhyw bum milltir (7 km) i'r dwyrain; dyma gartref John Jones, un o'r gwŷr a arwyddodd warant marwolaeth Siarl I, brenin Lloegr a brawd-yng-nghyfraith Oliver Cromwell.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]