Math | ffermdy |
---|---|
Cysylltir gyda | Tân yn Llŷn |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Penrhos |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.87958°N 4.47688°W |
Cod OS | SH3342034220 |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Plasdy bychan yn Llŷn oedd Penyberth gyda lle amlwg yn hanes Cymru a hanes llenyddiaeth Gymraeg. Safai ger eglwys Penrhos ar y ffordd rhwng Pwllheli a Llanbedrog ar benrhyn Llŷn, Gwynedd. Mae'n enwog heddiw yn bennaf oherwydd y "Tân yn Llŷn,' yr enw poblogaidd am y weithred o losgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth, ar 8 Medi 1936 gan D. J. Williams, Lewis Valentine, a Saunders Lewis a ystyrir yn garreg filltir yn hanes cenedlaetholdeb Cymreig. Dymchwelwyd yr hen dŷ er mwyn adeiladu'r ysgol fomio.
Erbyn amser codi'r ysgol fomio, roedd Penyberth yn ffermdy hynafol. Yn wir, roedd yn blasdy Cymreig, yn gartref i deulu o uchelwyr lleol a fu'n ddylanwadol yn y cylch ac yn un o noddwyr olaf Beirdd yr Uchelwyr yng Nghymru. Ymhlith y beirdd a ganodd i deulu Penyberth roedd Wiliam Llŷn, un o feirdd mwyaf yr 16g, Wiliam Cynwal (cyn 1587), sy'n enwog am ei ymyrson barddol gydag Edmwnd Prys, Morus Dwyfech (bl. 1540-80), Siôn Phylip (yn 1593) a'i frawd Rhisiart Phylip o Ardudwy, a Watcyn Clywedog (yn 1649).
Ymwelodd yr achyddwr a bardd Gruffudd Hiraethog â Phenyberth yn 1558 i lunio achau ac arfbais y teulu ac ymwelodd Lewis Dwnn yno hefyd i olrhain achau'r teulu. Mae achau Dwnn a Gruffudd Hiraethog yn dangos mai cangen o deulu'r Gwynfryn oedd teulu Penyberth ac felly'n ddisgynyddion i Gollwyn ap Tangno, Arglwydd Eifionydd ar ddechrau'r Oesoedd Canol a sylfaenydd un o Bymtheg Llwyth Gwynedd.
Am gyfnod roedd teulu Penyberth yn gefnogwyr brwd i'r Reciwsiaid Catholig. Ym Mhenybryn y ganed yr awdur a Reciwsiad Robert Gwyn, mab i Siôn Wyn ap Thomas o Benyberth ac awdur Y Drych Cristianogawl, y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru.
Roedd y pensaer enwog Clough Williams-Ellis, cynllunydd Porthmeirion, yn ddisgynnydd uniogyrchol o deulu Penyberth trwy Ann ferch John Wynn o Benyberth.
Gwerthwyd Penyberth a daeth yn eiddo amaethwyr. Chwalwyd yr hen blasty yn 1936 i wneud lle i'r ysgol fomio. Erbyn hyn mae'r ysgol fomio wedi mynd hefyd a cheir maes carafanau a chwrs golff naw twll ar y safle.