Math | cymuned, maestref |
---|---|
Poblogaeth | 5,419, 5,279 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Merthyr Tudful |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 112.93 ha |
Cyfesurynnau | 51.7581°N 3.3705°W |
Cod SYG | W04000720 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Dawn Bowden (Llafur) |
AS/au y DU | Gerald Jones (Llafur) |
Cymuned ym mwrdeisdref sirol Merthyr Tudful, Cymru, yw Penydarren. Saif i'r gogledd o ganol Merthyr, rhwng Cyfarthfa a Dowlais. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 5,253.
Ceir olion caer Rufeinig yma, yn yr hyn sy'n awr yn barc hamdden y gymuned. Penydarren oedd safle Gwaith Haearn Penydarren, y trydydd mewn maint o bedwar gwaith haearn mawr Merthyr, ar ôl Dowlais a Chyfarthfa.
Ym Mhenydarren y cychwynnai'r dramffordd a ddefnyddiodd Richard Trevithick i brofi ei locomotif ager yn 1804.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).[2]