Perimedr

Cynllun o Gastell Caernarfon. Yma, perimedr y castell, yw cyfanswm ochrau neu waliau'r castell.
Perimedr y polygonau hyn yw'r linell sy'n amgylchynu'r gofod gwyn h.y. hyd ffin y siapau.

Y llwybr neu'r linell sy'n amgylchynu siâp dau-ddimensiwn yw perimedr. Gellir defnyddio'r term naill ai ar gyfer y llwybr ei hun, ei hyd, neu ar gyfer amlinelliad y siâp. Gelwir perimedr cylch neu elíps yn "gylchedd". Yn aml, yn yr ysgol gynradd, disgrifir y perimedr fel "y ffens o gwmpas y cae".

Mae sawl defnydd ymarferol i gyfrifo'r perimedr e.e. o wybod cylchedd olwyn (hy ei berimedr), gallem gyfrifo hyd un tro cyfan o'r olwyn hwnnw. Neu efallai y gallem gyfrifo faint o sgyrtin i brynnu ar gyfer ystafell.

Tarddiad y gair 'perimedr' yw'r Groeg; mae'n air cyfansawdd a grewyd o uno dau air: περίμετρος perimetros o περί peri sef "o gwmpas", ac μέτρον metron sef "mesur".


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy