Enghraifft o'r canlynol | symptom type |
---|---|
Math | arwydd meddygol, respiratory signs and symptoms |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sŵn (neu synau) sydyn a chras a wneir gan berson (ac weithiau anifail), un ar ôl y llall, yw peswch. Mae'r gair hefyd yn disgrifio'r adwaith amddiffynnol gan y corff i feicrobau, llwch, bwyd ayb wedi mynd i mewn i'r ysgyfaint yn hytrach na'r oesoffagws. Dyma ddull y corff i'w gwaredu. Mae tair rhan i'r weithred o besychu: anadliad mewnol, anadliad allanol gyda'r glotis wedi'i gau ac yn olaf, gollwng yr anadl yn sydyn o'r ysgyfaint gyda'r glotis wedi'i agor.[1] Mae peswch yn medru bod yn wirfoddol neu'n anwirfoddol. Gall heintiau ymledu drwy beswch.
Gweithred o fewn y Tracea yw pesychu lle mae cyhyrau'r fron yn cyfangu i wneud y nwyon adael yr ysgyfaint efo grym cryf. Mae peswch yn fwy tebygol o ddigwydd pan mae rhywun yn sâl. Mae peswch hefyd yn amlwg yn ystod annwyd yn enwedig pan fo llysnafedd (mwcws) yn gorchuddio'r celloedd yn y gwddf sy'n cael gwared â llwch a bacteria sydd yn cael ei anadlu mewn. Digwydd yn aml mewn aer sydd wedi'i halogi a phersonau sy'n ysmygu.