Peter Grant

Peter Grant
Peter Grant


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – Mai 2020
Rhagflaenydd Lindsay Roy
Y Blaid Lafur

Geni 1961
Coatbridge, Gogledd Swydd Lanark, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Glenrothes
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Priod Fiona (meddyg)
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Gwleidydd o'r Alban yw Peter Grant (ganwyd 1961) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Glenrothes; mae'r etholaeth yn Fife, yr Alban. Mae Peter Grant yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Fe'i ganed yn Coatbridge, Gogledd Swydd Lanark, Yr Alban yn 1961 i deulu a oedd yn draddodiadol wedi pleidleisio i'r Blaid Lafur. Symudodd i dref Glenrothes yn 1982, ble etholwyd ef ar ran Plaid Genedlaethol yr Alban yn gynghorydd sir yn yr un flwyddyn. Bu'n arweinydd Cyngor Fife am 5 mlynedd.

Mae'n mwynhau cerddoriaeth ac yn chwarae'r fiolin ers ei blentyndod; diddordeb arall ganddo yw chwarae 'bôls' ac mae'n gadeirydd Clwb Bowlio Leslie.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy