Pig yr Aran | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Geraniales |
Teulu: | Geraniaceae |
Genws: | Geranium |
Rhywogaeth: | G. molle |
Enw deuenwol | |
Geranium molle L. |
Blodyn cyffredin sy'n tyfu mewn tir diffaith, cloddiau a thir wedi ei drin ydyw Pig yr Aran, Troed y Golomen neu Garanbig Maswaidd; (Lladin: Geranium molle; Saesneg: Dovesfoot neu Crane's-bill). Un bychan ydyw rhwng 10 a 15 cm ac mae'n blodeuo rhwng Ebrill a Medi.
Mae'n wreiddiol o ganol a gorllewin Ewrop ond bellach fe'i gwelir yn tyfu yng ngogledd America. Caiff ei ystyried fel chwynyn gan y rhan fwyaf o bobl a defnyddir "Glyphosate" i'w reoli.