Israniadau y System Cwaternaidd | |||
---|---|---|---|
Cyfnod | Epoc | Oes | Oed (Miliwn o flynyddoedd CP) |
Cwaternaidd | Holosen | 0.0117–0 | |
Pleistosen | Tarantian | 0.126–0.0117 | |
Ionian | 0.781–0.126 | ||
Calabrian | 1.80–0.781 | ||
Gelasian | 2.58–1.80 | ||
Neogen | Plïosen | Piacenzian | hynach |
Yn Ewrop a Gogledd America, rhennir yr Holosen i oesoedd ar raddfa Blytt-Sernander, fel a ganlyn: cyn-Foreaidd, Boreaidd, Atlantaidd, Isforeaidd ac Isatlantaidd. Ceir hefyd is-epocau Pleistosenaidd lleol, sydd fel arfer wedi'u mesur o ran tymheredd: is-gyfnodau rhewlifol a rhyng-gyfnodau cynhesol. Mae'r is-gyfnod rhewlifol diwethaf yn gorffen gyda'r Dryas Ieuaf / Diweddar. |
Epoc daearegol ydy Pleistosen (Saesneg: Pleistocene) (symbol PS[1]) a barodd o tua 2,588,000 hyd at 11,700 o flynyddoedd yn ôl ac sy'n rhychwantu'r holl gyfnodau diweddar o ailadrodd rhewlifiannau.
Syr Charles Lyell a fathodd y term ym 1839 i ddisgrifio strata o greigiau yn Sisili; sylweddolodd fod yn y creigiau hyn ffawna molysgaidd a bod 70% ohonyn yn dal i fodoli. Roedd y ffaith hwn yn ei wneud yn gwbwl wahanol i'r epoc Plïosenaidd ac yn ei wneud yn gyfnod gwahanol ac iau. Bathodd y term Pleistocene (mewn ystyr lythrennol ‘mwayf newydd, diweddaraf’) o'r Hen Roeg pleîstos (πλεῖστος) ‘mwyaf’ a kainós (καινός) ‘newydd, diweddar’; roedd hyn, felly, yn cyferbynnu gyda'r cyfnod a'i rhagflaenodd, sef y cyfnod Plïosenaidd (mewn ystyr lythrennol ‘mwy newydd, diweddarach’, o'r geiriau pleíōn (πλείων) ‘mwy’ a kainós), a'r cyfnod a'i dilynodd sef Holosen (‘yn gyfangwbwl newydd’, a darddodd o'r Hen Roeg hólos (ὅλος) ‘yn gyfangwbwl’ a kainós) sy'n ymestyn hyd at y presennol.