Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 7,649 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5216°N 3.3913°W |
Cod SYG | W04000878 |
Cod OS | SS985832 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mick Antoniw (Llafur) |
AS/au y DU | Alex Davies-Jones (Llafur) |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Pont-y-clun. Saif ychydig i'r gogledd o ddinas Caerdydd, ac i'r de o Lantrisant. Heblaw pentref Pont-y-clun ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Brynsadler, y Groes-faen a Meisgyn. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 5,794.
Bu gweithfeydd plwm a haearn yma o'r 16g, ac yn y 19g roedd gwaith tunplat a phyllau glo. Erbyn hyn, mae llawer o'r boblogaeth yn cymudo i Gaerdydd.